Gigs Cychwynnol 2019
Cicio'r Bar, Aberystwyth

Cawsom noson ddifyr iawn yn un o ddigwyddiadau Cicio'r Bar, Aberystwyth. Noson wedi ei threfnu gan Eurig Sailsbury a Hywel Griffiths, yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth.
Braf oedd cael rhannu llwyfan a Karen Owen am y tro cyntaf hefyd; cadwch lygaid ar eu tudalen Twitter am ddigwyddiadau eraill:-
https://twitter.com/ciciorbar
Galeri, Caernarfon

Diolch i bawb ddaeth i'r Galeri yn Nghaernarfon i'n gweld yn cefnogi Blazin' Fiddles - roedd y gig wedi gwerthu allan, a roedd hi'n braf gweld criw Gwerin Gwallgo'n perfformio yn y cyntedd cyn y gig.
Gwyl y Pethau Bychain, Machynlleth

Cafwyd derbynniad da ym Machynlleth dros y penwythnos hefyd, wrth i griw Gwyl y Pethau Bychain lenwi stafelloedd sawl adeilad ym Machynlleth â cherddoriaeth werin. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad.