Gwesty'r Marine, Cricieth - 14.04.2018
Braf iawn oedd cael dychwelyd i Gricieth neithiwr i berfformio ar gyfer Clwb Gwerin y Castell; hon oedd ein gig gyntaf ers ddiwedd Ionawr, a roedd hi'n braf cael y croeso cynnes. Roedd y noson wedi gwerthu allan, a roedd yr ystafell dan ei sang - diolch i chi 'gyd am ddod, a diolch i Twm am sefyll mewn ar y drymiau i ni eto!

Roedd 'llynedd yn flwyddyn brysur iawn i ni, buom yn perfformio tua 60 o gigs dros gyfnod o 6 mis, felly rydym ni wedi penderfynnu cymryd blwyddyn dawelach am 'leni - byddwn yn cyhoeddi ein dyddiadau dros yr haf yn fuan; cadwch lygaid ar ein gwefan a'n tudalennau cymdeithasol am fwy o fanylion! Hwyl am y tro!