Blwyddyn Newydd Dda!
Dydd San Steffan
Buom yn perfformio mewn dwy gig ar ddydd San Steffan - gan gychwyn yn nhafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen am 2 y.p, ac yna yn Y Fic, Llithfaen am 5 y.h.
Diolch i bawb oedd yn y ddau leoliad am y croeso cynnes fel arfer!
Nos Galan
Yn Nant Gwrtheyrn yr oeddem ni'n croesawu'r Flwyddyn Newydd eleni, a hynny efo neb llai na Band Pres Llareggub - braf iawn oedd cael y cyfle i rannu llwyfan â nhw eto!

(Llun gan Einir Ellis)
Diolch!
Hoffem ddiolch fel band am eich cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, boed hynny trwy fynychu un o'n gigs ni, gwrando ar ein cerddoriaeth neu ein cael ni i berfformio yn un o'ch digwyddiadau chi.
Bu’n flwyddyn gyffrous wrth i ni deithio i leoliadau lle 'roeddem ni wedi bod o'r blaen, a rhai newydd, cyfarfod ffrindiau am oes a chael llawer iawn o hwyl tra'n gwneud hynnu!
Edrychwn ymlaen i baratoi am flwyddyn brysur arall - Blwyddyn Newydd Dda!
Wil, Iestyn, Carwyn a Gruff X