Caerdydd!

Braf oedd perfformio yng Nghaerdydd am y tro cynta dros y penwythnos, yn Canna Deli bnawn Gwener, ac yna yn Y Parlwr yn Splott gyda'r hwyr, gyda chefnogaeth Gwilym Bowen Rhys. Roedd hi'n noson arbennig, gyda'r lle'n llawn, a phawb i weld yn mwynhau'r perfformiadau cyntaf o holl ganeuon yr albwm.
Neithiwr wedyn, mi fuom ni'n canu ym mharti priodas Elfed a Tina ym Mhwllheli. Llongyfarchiadau iddyn nhw eu dau.
Bad planning neu beidio (!) mi fyddwn ni'n dechra lawr o Aber am Gaerdydd mewn munud i ganu yno eto heno - 'da ni'n cloi llwyfan YurtT yn Nhafwyl am 7:30 heno!
Wedi sesh fory i ddathlu fy nyfodiad i i ddegawd newydd (dyma fy 24 awr ola fel teenager) mi fyddwn ni'n mynd am Bontypridd nos Fawrth i ganu yng Nghlwb y Bont! Welwn ni chi o gwmpas gobeithio! x