Gigs ac ymarferion diwedd blwyddyn

Gobeithio i bawb gael Nadolig llawen! Ar ddydd San Steffan fe fuom ni'n perfformio yn Ty Coch, Porthdinllaen yn y pnawn, ac yn y Fic, Llithfaen yn nes ymlaen yn y dydd. Diolch i bawb arall ddaeth allan i'n gweld ni. Llongyfarchiadau hefyd i Rhian a Dan, a ddyweddiodd ar y traeth ym Mhorthdinllaen cyn i ni gychwyn canu - maen nhw'n wynebau cyfarwydd iawn i aelodau'r band. Pob dymuniad da i'r dyfodol gan y pedwar ohonom.
Yna ddoe buom yn y Whitehall Pwllheli yn canu mewn pnawn Prosecco i godi arian at elusen Awyr Las. Eto, diolch i bawb ddaeth i gefnogi. Penblwydd hapus i Mari hefyd, a gafodd berfformiad ecsgliwsif gan y band fyny grisia!
Heddiw wedyn mi ddechreuom ni ar ymarferion cyn recordio ein halbym (y broses o wneud hynny yn dechra wsos nesa!) yn Llofft Tafarn y Fic. Diwrnod llwyddiannus a lot o hwyl! Mi fyddwn ni yn y Llofft am weddill yr wythnos cyn chwarae yn y Nanhoron, Nefyn ar ddiwrnod cyntaf 2017. Dewch draw os da chi awydd sesh a dawnsio i rai caneuon newydd yn ogystal a'r hen ffefrynnau! :) x