Hen ysgol hogia (a genod) Llŷn

Pnawn ma mi gawson ni amser gwych yn diddanu criw gwyllt Ysgol Botwnnog am hanner awr ola'r tymor!! Mae'n ysgol y mae rhai o aelodau'r band yn ddyledus iawn iddi, felly braf ydi rhoi rwbath yn ol. Braint hefyd oedd rhannu'r llwyfan hefo'r band newydd (ish!) gwych - Pyroclastig. Braf ydi eu gweld yn mynd o nerth i nerth hefo'u talent am greu caneuon bachog! Y lle nesaf y byddwn ni'n perfformio yn fyw fydd Ty Coch Porthdinllaen (1pm) a'r Fic yn Llithfaen (4pm) ar y 26ain o Ragfyr. Tan hynny - hwyl, a Dolig Llawen i chi i gyd! x