Nant Gwrtheyrn / Aberdaron
Nos Fawrth buom yn perfformio mewn noson lawen arbennig yn Nant Gwrtheyrn, yn diddanu dysgwyr Cymraeg o bedwar ban byd yn ogystal a chriw lleol. Diolch yn fawr am y gwahoddiad a braf oedd rhannu'r llwyfan a Llion Williams, Elen Roberts, a Paul Edwards y consuriwr.
Yna neithiwr yn awyrgylch hudolus eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, cawsom gig wych i lond y lle, gan rannu'r llwyfan a Tegid Rhys a'r anhygoel Plu, oedd newydd ddychwelyd o wyl y Dyn Gwyrdd dros y penwythnos. Diolch i Elan o Plu am ymuno hefo ni i ganu 'Lladron,' a diolch i bawb fu ynghlwm a'r trefnu, a dyma rai lluniau i roi blas o'n cyfraniad i'r noson...
Falla gwelwn ni chi yng Ngwyl Crug Mawr, Aberteifi dros y penwythnos! - 4yh ar lwyfan y Castell - byddwch yno!!