Priodas Anni a Tudur

Llongyfarchiadau mawr Mr a Mrs Phillips! Roedd hi'n fraint cael chwarae yn y briodas a chael cymryd rhan yn niwrnod mawr Anni a Tudur! Mae wastad yn braf cyfrannu i briodasau ffrindiau. Cafwyd set acwstig yn y prynhawn i groesawu pawb yn ol wedi'r wasanaeth, twmpath dawnsio gwerin yn nes ymlaen (gyda diolch i Gethin am alw'r twmpath yn hynod fedrus), ac yna ein set lawn i gloi. Roedd yn bleser rhannu'r adloni hefo DJ Bry hefyd. Diolch a phob lwc at y dyfodol i'r cwpwl hapus!