Priodas yn Nant Gwrtheyrn
Neithiwr mi fuo ni'n chwara' ym mhriodas Fflur ac Owain yn Nant Gwrtheyrn. Roedd hi'n ddiwrnod braf yn y Nant - llongyfarchiadau mawr a phob dymuniad da iddyn nhw at y dyfodol!

Diolch o galon am y gwahoddiad - gawson ni amser gwych, a chynulleidfa arbennig.
Cyngerdd Mered ddechrau mis nesaf (ac efallai rhywbeth bach cyn hynny) ac yna mi fyddwn yn cymryd saib ar gyfer yr arholiadau cyn cychwyn yn ol efo'r gigio tua diwedd mis Mehefin!