Whitehall / Gwesty'r Celt
Nos Sadwrn mi drefnon ni gig fach yn y Whitehall, Pwllheli. Dechreuwyd am 11 er mwyn i bawb gael mynd i weld y Chwedlau yn Penlan a wedyn dod i wrando arnom ni! Roedd set Y Chwedlau'n wych ac roedd hi'n noson arbennig ym Mhwllheli, gyda'r Whitehall yn orlawn a phawb yn dawnsio'n wyllt i'r hen ffefrynnau a rhai eitemau oedd ddim mor hen! (Diolch i Alun o'r Chwedlau hefyd am ymuno efo ni ar y llwyfan a serenadio'r gynulleidfa gyda'i harmonica yn 'Meddwl ar Goll'!) Diolch yn fawr i bawb ddaeth allan - mi wnaethon ni wir fwynhau! Yna neithiwr mi fuon ni draw yng Ngwesty'r Celt (Celtic Royal Hotel) yng Nghaernarfon ar gyfer parti priodas Catrin a Gethin! Llongyfarchiadau mawr i'r par priod, a diolch i bawb am fod yn gynulleidfa mor wych - roedd hi'n bleser perfformio!
Y lle nesaf gallwch ein dal ni'n fyw ydi ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 1af o Fai mewn cyngerdd arbennig i ddathlu bywyd Meredydd Evans. Cyn hynny, priodas arall ar y gweill ac efallai ambell beth bach arall! Welwn ni chi'n fuan!