Neuadd Y Farchnad 12/03/16
Neithiwr buom yn chwarae yn lawnsiad albwm newydd sbon Y Bandana - 'Fel Ton Gron' hefo'r Bandana a Fleur de Lys, yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.

Roedd y gig wedi gwerthu allan ac roedd hi'n ofnadwy o braf gweld y lle yn llawn at yr ymylon a phawb yn dawnsio a mwynhau. Diolch i bawb ddaeth draw i gefnogi!

Llongyfarchiadau i'r Bandana ar albwm cwbl wych - ewch allan ar eich union i'w brynu os nad ydach chi wedi gwneud hynny'n barod - TIWNS! Roedd eu perfformiadau nhw a Fleur de Lys yn y gig yn hollol wefreiddiol. Diolch i Gruffydd Davies am sefyll i fewn i ni ar y bas neithiwr - cerddor cwbl wych a braint ei gael ar y llwyfan hefo ni!
Diolch o galon am y gwahoddiad i gymryd rhan mewn gig mor arbennig, a gobeithiwn eich gweld i gyd yn fuan iawn! Cwpl o briodasau sydd ar y gweill nesa', ond mae 'na ddigon o gigs cyffrous eraill yn dod i fyny hefyd, felly cadwch lygad yma! :) x
