Gig Clwb Rygbi Pwllheli
Gwerthodd y gig allan yng Nghlwb Rygbi Pwllheli nos Wener, gyda'r lle'n llawn o bobl ifanc yn mwynhau - gret gweld cymaint wedi dod allan i gefnogi. Diolch i'r band ifanc newydd Pyroclastig am agor y noson - dwi'n siwr y clywn ni lawer ganddyn nhw yn fuan iawn!
Ar hyn o bryd ein gig nesaf ni fel band fydd ar noson lawnsio albwm newydd Y Bandana - 'Fel Ton Gron', ar nos Sadwrn y 12fed o Fawrth. Yn ogystal a'r Bandana byddwn yn rhannu'r llwyfan gyda Fleur de Lys. Mae tocynnau'r noson ar gael o Palas Print, Caernarfon, am £10. Welwn ni chi yno! :D x