Gig Bad Achub - 19 Rhagfyr
Buom yn chwarae set neithiwr ym mharti Nadolig criw Bad Achub Porthdinllaen. Cafwyd noson hwyliog a phawb i weld wedi mwynhau yn arw! Dyma ein gig olaf cyn y Nadolig felly hoffem ddymuno Nadolig llawen iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi mewn unrhyw ffordd dros y flwyddyn! Os hoffech ein dal cyn 2016 byddwn yn chwarae set acwstig mewn p'nawn siampen yn y Whitehall, Pwllheli ar y 27ain o Ragfyr. Byddwn yn chwarae'r Ship yn Aberdaron ar nos Galan hefyd. Hwyl am y tro!