Mwy ar yr EP...
http://www.sainwales.com/store/rasal/rasal-cd037 Dyma'r linc i'r dudalen ar wefan Sain lle gallwch nawr RAG-ARCHEBU ein EP newydd sbon - 'Dwyn y Dail'! Bydd ar gael o Dachwedd y 31ain felly hawliwch eich copi digidol yn awr! Mi fydd CD's caled hefyd yn cael eu printio, felly gwyliwch allan am gyfle i'w prynu yn ein gigs ac yn eich siopau lleol! Mae'r EP yn cynnwys 5 trac sef:
Mwncwns Abertawe
Meddwl ar Goll
Deio i Dywyn
Lle wyt ti?
Lladron
Mae yma gymysgedd o'r holl ddylanwadau sydd arnom fel band - o'r alawon gwerin cyflym yn y trac cyntaf i'r naws araf a distaw yn y trac olaf. Mwy i ddilyn! Beth am ddod i'n gweld ni yn chwarae set Acwstig yn Lolfa fach Pantycelyn ar nos Wener y 4ydd o Ragfyr am 7:30yh? Neu beth am y diwrnod canlynol yng Nghwyl fwyd Portmeirion, lle byddwn yn chwarae am 12yp. Welwn ni chi o gwmpas! :)