Croeso Carwyn!
Carwyn Williams o Forfa Nefyn yw ein basydd newydd! Dyma adeg cyffrous i'r band wrth symud ymlaen i recordio a gyda llawer o gigs ar y gorwel! Gig cyntaf Carwyn hefo Patrobas fydd Pnawn Sul y 22ain o Fawrth yn Galeri Caernarfon, i gefnogi Cowbois Rhos Botwnnog. Penwythnos yma cawsom ymarfer yn Neuadd Rhoshirwaun i fynd dros hen stwff a 'jazzio' fyny 'chydig, yn ogystal a sbydu llawer o syniadau newydd diddorol a sgrifennu rhywfaint o ddeunydd! Welwn ni chi'n fuan! x