Rebal Wicend
Gigs dwbwl penwythnos yma a 'da ni'n nacyrd! Parti penblwydd yn Ty Newydd Sarn oedd Nos Sadwrn, yn rhannu'r llwyfan efo John ac Alun. Cafwyd noson wych a gobeithio bod Hannah wedi mwynhau ei hun wrth ddathlu ei unfed ar hugain. Wedyn neithiwr mi fuon ni yn nhafarn y Cliffs, Morfa Nefyn (llun isod). Cafodd Bad Achub newydd porthdinllaen ei lansio yn swyddogol mewn seremoni ddoe felly roedd yn achos o ddathlu mawr i griw y bad achub, teulu a ffrindiau. Cafodd y set ei chwarae ddwywaith er mwyn estyn y noson, ac wrth gwrs yr uchafbwynt oedd 'Fflat Huw Puw' - lle arall ond Porthdinllaen!? Roedd yn wirioneddol wych gweld pawb yn morio canu ac yn mwynhau eu hunain. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gefnogi.