Croeso!
Mi fydd gynno ni newyddion cyffrous iawn i rannu efo chi yn fuan! Yn y cyfamser rydym ni yn gweithio yn galed ar ganeuon newydd i'w perfformio dros yr haf. Mi rydan ni yn edrych mlaen i rannu yr holl gynnyrch efo chi yn fuan, a gobeithio bydd caneuon newydd yn cymeryd lle rhai o'r hen covers sydd yn y set. [er bydd digon o'r hen ffefrynnau yn aros hefyd!] Gair hefyd i'ch atgoffa bod ein GIG NESAF YNG NGHLWB GOLFF NEFYN AR 28ain MEHEFIN 2014 i godi arian at Gronfa Dylan. Mae'n achos teilwng felly dewch yn llu. Yr adloniant yw PATROBAS - TONY LLYWELYN - J.D & CO. Gwelwch ein tudalen 'ADRA' neu 'GIGS' am fwy o wybodaeth am gigs a pherfformiadau sy'n dod i fewn.