Geiriau/ Lyrics
CREITHIAU
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne, trefn./arr. Patrobas
MI FYDD HI'N FORA
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne, trefn./arr. Patrobas
PAID RHOI FYNY
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Wil Chidley, trefn./arr. Patrobas
Fi di’r dyn o chdi’n arfar ei nabod,
Fi di’r dyn sy’ bellach ddim yn bod,
Fi di’r dyn efo’r creithia ar fy nghroen,
Fi di’r dyn fu’n byw mewn poen.
A dwi’n brifo, ia dwi’n brifo fy hun;
di’r gwaed sy’n llifo ddim yn gwella’r llun;
Pan o’n i’n ddeunaw o’n i’n wythdeg un.
Dwi di newid yn ddistaw dros amser,
dwi di bod drwy’r ddaear i gyd;
dwi di teithio ar hyd ei thraethau hi
a’r mynyddoedd ucha’n bod.
Ac os dwi’n disgyn yn ôl i’r fagddu
Dwi’m yn disgwyl i neb fy nal i,
Dwi di delio efo’r peth yn fy ffordd fy hun;
Fi di’r dyn sy’n byw mewn poen
CASTELL ABER
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne, trefn./arr. Patrobas
Ma trydar adar mân yn llenwi’r prom
ac ambell wylan wen ar frig y don,
Ma’r goleuada di mynd i ffwrdd i gyd
a does na neb ond ni ar ôl yn y byd
Tyrd efo fi, awn ni am dro
i’r castell lle buodd o,
Tyrd efo fi, awn ni i’r tŵr
i wrando ar y dŵr.
Ma’r walia ma di disgyn lawr ers tro
a does na’m byd ond cerrig mawr a gro,
Ma’r llanw’n torri’n ddistaw bach gerllaw
a’r haul yn gadael tua’r gorwel draw
Mi sgwennith gerdd, mi ganith gân i ni;
y trwbadŵr a’i delyn ar ei lin,
ac os ti’n gwrando’n astud ar y gwynt
mi glywi ditha’r hyn fu yma gynt
"POWER TO THE PEOPLE!"
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne, trefn./arr. Patrobas
Power to the people
medda’r dyn;
Power to the people
medda’r deillion,
ma’r byd yn deilchion
yn ei law,
yn ei law.
Ma’r baneri i gyd yn chwifio yn y gwynt,
a’r prosesiwn crand yn hwylio ar ei hynt,
a’n chwiorydd ninna’n cerdded fymryn cynt.
Must be a pretty picture
medda’r dyn
to see you dropping to your knees,
a’r deillion;
pob un yn degan
yn ei law,
yn ei law.
Ond ar fore oer o aeaf
dyma chi
yn codi’ch lleisiau fry
a dal arwyddion
i herio’r deillion
yn y glaw,
yn y glaw.
LLADRON
Dwyn y Dail (Sain, 2015)
Iestyn Tyne (geiriau), trefn./arr. Patrobas
Pa fodd yr aeth tymhorau
yn ddail yn ein calonnau
i gynnau tan hydrefol hwyr
sy'n llosgi'r hen gelwyddau?
Daeth chwiban alaw'r brigau
i chwerthin am ein pennau,
gan oeri'r galon dan dy fron
a chwalu 'mreuddwyd innau.
Ar ysgafn droed daeth lladron
i ddwyn y dail gan ddynion;
eu serch yn pydru dan
- dan y coed
a chwalu mewn cysgodion.
Pan ddaeth yr haf i'n hysgwyd
fel cusan hen anwylyd
fe deimlais innau drwy y gwair
y gwynt a'i dwrw sbeitlyd.
Y mis dig du fydd arnom
cyn cynnau fflamau rhyngom,
ac er y glaw a'r hindda,
mae'r hawl i garu ynom.
Mi fydd hi’n fora cyn bo hir
a phawb yn deffro dros y tir;
mi fydd hi’n fora cyn pen dim,
daw’r adar ar adennydd chwim…
Bydd rhaid i chditha fynd o fama,
golchi dy wallt a hel dy betha
achos allwn ni ddim treulio’n dyddia
mewn barddoniaeth.
Mi fydd hi’n fora ‘mhen rhyw awr;
mi ddaw pelydra gwyn y wawr,
Mi fydd hi’n fora cyn ‘ti droi;
Ma’r nos yn dechra ffoi…
Brwsha dy wallt ar erchwyn y gwely
mewn cysgod cyn i’r haul dywynnu,
a’r hannar gola’n amlinellu’n
straeon.
Mi ddaw hi’n fora, daw, mi ddaw
cyn sicred a daw y gwynt a’r glaw,
mi ddaw hi’n fora a rhaid i ni
dderbyn hynny fel y gwir…
Cofia gau y drws ar dy ôl –
ma dy sodla di yn dal yn yr hall
yn deud ein bod ni’n dau mor ffôl
a’n gilydd.
GEIRIAU BRAD
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne, trefn./arr. Patrobas
Be sydd yn dy ben di
pan ti’n codi ar fora braf
yn yr haf, dim ond gaeaf?
Be sydd yn dy ben di
i chdi deimlo’r ofn yn cydio
yn ergydio, ydi o’n brifo?
Bob bora dydd Sul yn dy bapur rhad
wt ti’n darllen geiria brad
am sefyllfa dy wlad
a dy dad sy’n troi’n ei fedd.
Be sydd yn dy ben di
pan ti’n rhoi dy groes ar bapur,
‘di o’n gwneud synnwyr; synnwyr pur?
Be sydd yn dy ben di
pan ti’n clywed propaganda
yn deud “gwranda, gwna di hynna”?
Be sydd yn dy ben di,
ddim yn meddwl am dy blant dy hun
yn y llun, ond dy hunan?
Be fydd yn dy ben di
wrth i chditha’ sylwi’r brad
â dy wlad wedi ‘madael?
DALIANIALA
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Iestyn Tyne (geiriau), trefn./arr. Patrobas
Ma’r heli yn fy nwylo a’r heli yn fy wylo,
be weli di, nghariad i, draw dros y don?
Ma’r heli yn fy nghleisio, a’r heli yn fy nhreisio;
draw dros y don, Mam, does na’m byd.
Dalia ni Allah, ma’r cwch ma mor frau,
Dalia ni, dalia ni’n dau.
Dalia ni Allah, ma’r cwch ma mor frau,
Dalia ni, dalia ni’n dau.
Ma’r nos yn fy oeri a’r nos yn fy mhoeni,
a weli di, nghariad i, dir ar y gorwel?
Ma’r nos yn fy ngweiddi a’r nos yn fy ngweddi,
ar y gorwel, Mam, dim ond môr.
LLE WYT TI?
Dwyn y Dail (Sain, 2015)
Wil Chidley, trefn./arr. Patrobas
W'sos bach arall wedi pasio unwaith eto;
Ni'n dau arwahan a heb ddod yn nes,
Dwi'n agor y drysau a ti'n eu cloi nhw;
yn chwerthin arna i, drwy'r ffenestri oer
Hei, lle wyt ti yn swn y bwrlwm yn fy mywyd,
yfa botel o dy freuddwydion, a meddwa ar yr holl syniada' gwirion;
Teimlo'n gartrefol yn dy gwmni di;
dy gwmni di yn dan ynnof fi.
Cerddad strydoedd du, rhwng drysau'r siopau llwyd,
tocynnau bws ddoe yn freuddwydion yn y glaw,
a mwg y sigaret 'run fath a chdi;
yn g'neud dim synnwyr ac yn llosgi yn boeth;
Mi ddalia i dacsi'r diawl yn sgwrsio'r hwyr,
hyd yn oed os bydda i yma trwy'r nos,
yn aros i'r gyrrwr fynd a fi ymhell
lawr lon y dychymyg i rywle gwell;
Wel, dwi’n gwybod ‘mod i di gneud cam,
Sut fedrish inna fod mor wan?
Camgymeriad llwyr oedd y cyfan.
Alla i’m coelio fod hyn di digwydd,
a hynny dan fy llygaid,
Fydda i’n cicio fy hun am hydoedd
am wneud peth mor hurt.
Mae’r rhai sy’n rhoi digon o gariad
yn siŵr o’i gael o i gyd yn ôl – paid rhoi fyny,
Mae’r rhai sy’n rhoi digon o gariad
yn siŵr o’i gael o i gyd yn ôl – cofia hynny.
Mae fy nghalon yn fwy na’r ddaear,
ac er mai chdi ga’th yr allwedd iddi gynta,
dwyt ti ddim werth y drafferth
A dwi’n gwybod hynny rwan,
Ac mae hi bellach yn wag;
Mae’r hollt ynddi’n anghildroadwy
a’r pwythau’n torri’n rhydd…
Os wyt ti yn – be ti’n ddeud
ac yn gwneud – be ti’n ddeud,
Fydda i wastad yn angor i chdi,
ac os ti’n rhannu – efo pawb
ac yn trio – efo pawb,
gei di fy holl gariad i.
MERCH Y MÔR
Lle awn ni nesa? (Sain, 2017)
Wil Chidley, trefn./arr. Patrobas
‘Di’n ffrindia i prin yn f’adnabod
heb fy nghês yn fy llaw,
a phan dwi’n sefyll yn llonydd
dwi’n diflannu heb ddeud dim.
Ond ‘falla dyna sut nesh i
ddod ar dy draws di ger y lli,
a thrwy dy weld di’n bell i ffwrdd,
Ro’n i’n ysu i wybod mwy…
Ma dy llgada’ di’n disgleirio,
Ma gen ti donnau yn dy wallt
sydd ond i’w cael am fod y môr yn hallt
a sna’m pwynt gwadu pwy da ni.
Pan fydd pobl yn gofyn wrtha i
“O le’n y byd wyt ti’n dod?”
Dwi wastad yn eu camarwain nhw
gan bo’ fi’m cweit yn siŵr.
Mae o di sgwennu ar fy nhalcen;
Mae o’n nofio yn fy mheint,
ond chdi di’r un sy’n gwybod
mai fi di’r un sy’n cario’r baich…
Dwi’n gobeithio gwnei di sylwi
bo’ fi’n fwy na hyn yn y bôn;
Ma’ gen i werth yndda i’n rwla
er mai hyn di’r un hen dôn.
Ond rŵan dwi’n sylwi be dwi’n golli
trwy gadw ffwrdd oddi wrth bawb,
ac mae fy ofnau i’n diflannu
wrth i chdithau ddal fy llaw…
MEDDWL AR GOLL
Dwyn y Dail (Sain, 2015)
Wil Chidley, trefn./arr. Patrobas
O ti’n newid dy feddwl bob dau funud
Ti’m yn gw’bod os w’t ti’n mynd ymlaen neu yn d’ôl
‘S’am syndod dy fod di wedi’ cholli hi
wrth ysgwyd dy ben fel r’wbath o’i go…
O duda wrtha i, duda wrtha i,
duda wrtha i be sy’n digwydd ‘fo ni
hei, hei cariad duda wrtha i.
Ti’n deud un peth ac yn meddwl peth arall-
Ti’n neud o heb feddwl a ‘mond fi sy’n sylwi,
Ti’n gofyn pam ‘mod i’n ama’ dy ddewis
a wedyn ti’n cofio dy fod di mor anghofus…
Ma’ dy deulu di gyd di dechra’ sylwi bo’ chdi’n neud o
Ma’ nhw’n trio dy rybuddio – ma’i wastad rhy hwyr;
Ti ‘di agor dy geg a ‘di malu awyr llwyr
a ‘di gneud i dy hun edrych fel ffwl…