© 2019 Patrobas

  • White Facebook Icon
  • White Instagram Icon
  • White Twitter Icon

Adolygiadau / Reviews

Albwm/ AlbumLle awn ni nesa'? - 2017

Dyma albwm cyntaf y pedwarawd roc-gwerin o Lyn. Cyfuniad o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol a gafwyd ar eu EP Dwyn y Dail (2015), ond deg can wreiddiol a gawn yma, a'r band bellach wedi datblygu a mireinio eu harddull unigryw.

   Dechreua'r casgliad a 'Creithiau', sy'n creu teimlad o anesmwythyd yn syth gyda swn crawcian brain a harmoniau lleisiol mynachaidd. Daw'r gitar drydan a'r ffidil a sioncrwydd i'r gytgan, ond erys yr anesmwythyd wrth i'r canwr son am hunan-niweidio a 'disgyn yn ol i'r fagddu'. Trawiadol yw'r cyferbyniad, yma ac yng ngweddill y casgliad, rhwng cyfoesedd y geiriau a'r gerddoriaeth draddodiadol.

   Cynhyrchwyd yr albwm gan Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) ac mae dylanwad ei fand yntau i'w glywed yn sain glan, moel caneuon fel 'Mi fydd hi'n fora'. Mae uniongyrchedd geiriau Iestyn Tyne yn dwyn i gof y Cowbois ar eu gorau: 'Brwsha dy wallt ar erchwyn y gwely / mewn cysgod cyn i'r haul dywynnu, a'r hannar gola'n amlinellu'n / straeon.'

   Dolen gyswllt arall rhwng y ddau fand o Lyn, nid yn annisgwyl, yw'r mor, sy'n thema gyson yng ngeiriau'r ddau fel ei gilydd. Mae'r mor hefyd yn gefnlen ddramatig i glawr y CD a'r llyfryn atodol ac fe geir sain gyffelyb i sianti mor yn y gan brotest 'Power to the People!' (nad yw'n ddim byd tebyg i gan John Lennon o'r un enw).

   Elfen bwysig o sain y band yw llais cyfoethog Wil Chidley. Mae'n arbennig o effithiol yn 'Geiriau Brad', can brotest ddig sy'n son am ddylanwad a grym y papurau tabloid. Gall ganu'n dawel a sensitif hefyd, megis yn y gan serch, 'Merch y Mor.'

   Ceir yma ganeuon da wedi'u strwythuro'n ofalus. Hawdd yw dychmygu cynulleidfa Maes B yn morio canu 'Paid Rhoi Fyny' neu 'Castell Aber' a leitars yn yr awyr. Er mawr syndod i mi, fel un sy'n hoff o ganu gwerin ond yn llai hoff o gerddoriaeth werin offerynnol ac unawdau ffidil hirfaith, ces hefyd flas ar ddwy gan offerynnol y casgliad. Mae 'Difyrrwch Sieff-Sieffre' yn adeiladu at uchafbwynt gwefreiddiol a gwaith Iestyn Tyne ar y ffidil yn syfrdanol. Can fach dawel, swynol yw 'Dormeo', i dawelu'r dyfroedd ar ol 'Geiriau Brad.'

   I gloi'r casgliad, ceir 'Dalianiala', sef deuawd i gyfeiliant piano rhwng Branwen Williams (Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog) a'r prif leisydd, Wil Chidley. Yn anffodus, nid yw'n ddiweddglo cwbl foddhaol, er mor swynol yw lleisiau'r ddau. Mae'r gan yn debyg i ddeuawd o sioe gerdd ac nid yw'n gydnaws rywsut a gweddill y casgliad.

   Dyma albwm cyntaf aeddfed a meddylgar, sy'n llawn alawon cofiadwy. Edrychaf ymlaen at weld Patrobas yn chwarae'n fyw yr haf hwn.

EM
BARN

Band ifanc yn aeddfedu a gwireddu eu potensial

 

Lle Awn Ni Nesa ydi teitl albym newydd Patrobas - ac mae'n un hynod addas i'r grwp ifanc o Lyn.

   Mae'r gwrandawr yn cael ei arwain ar daith difyr a diddorol, sydd ambell waith yn annisgwyl, ac mae hyn yn arbennig o wir am y trach cyntaf, Creithiau.

   Mae'n braf gweld band ifanc yn aeddfedu a gwireddu'r potensial a ddangoswyd yn eu dyddiau cynnar, ac mae Patrobas wedi aeddfedu'n arw ym mhob ystyr ers rhyddhau ei EP cyntaf yn 2015.

   Yr aelodau yw Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies.

   Dwi'n siwr fod Patrobas ymhlith y bandiau prysuraf yng Nghymru ar y funud, ac mae'r perfformio cyson yn dangos yn eu miwsig. Mae 'na newid graddol wedi bod yn yr arddull - mae'n nhw'n dal yn grwp gwerin, er yn llai gwerinol a mwy cyfoes eu swn a'u steil erbyn hyn.

   Mae caneuon yr albym newydd yn rhai gwreiddiol i gyd, sy'n dda o beth wrth gwrs. Serch hynny, gobeithio na wnawn nhw anghofio'r ochr draddodiadol yn llwyr yn y dyfodol, achos o weld eu perfformiadau byw (ac o dystiolaeth eu EP cyntaf) mae ganddynt rhywbeth i'w gynnig ar yr ochr honno hefyd.

   Efallai i chi glywed y gan Paid Rhoi Fyny fel Trac yr Wythnos ar Radio Cymru, ac mae hon yn sicr yn dangos yr aeddfedrwydd newydd i'r dim. Can hyfryd gan brif leisydd y band, Wil Chidley. Ef yw awdur y gan Merch y Mor hefyd, ond Iestyn Tyne sy'n gyfrifol am y caneuon eraill, ac mae cael bardd o'i safon o yn eich rhengoedd yn dipyn o gaffaeliad i unrhyw grwp. Mae'n dipyn o ffidlwr hefyd!

   Pan ddarllenais deitl y gan olaf ar yr albym - dalianiala - ro'n i'n meddwl mai 'dal i aniala' oedd ganddyn nhw dan sylw, sef dal i fwynhau mynd allan i'r anial neu rhywbeth felly... 'aniala' fel 'ciniawa' neu 'fynydda' ac yn y blaen. Ond o wrando ar y trac daeth ei arwyddocad yn amlwg.

   'Dalia ni Allah' ydi'r frawddeg siwr iawn, ac o ddeall hynny mae llun y clawr yn gwneud synnwyr (ac mae'n lun gwych, gyda llaw, gan Dewi Glyn).

   Er bod 'na sawl can dda ar yr albym, hon 'di'r orau gen i. Mae ei neges am sefyllfa'r ffoaduriaid o'r Dwyrain Canol yn boenus o amserol o hyd, gwaetha'r modd, ond mae'n goblyn o gan, a bydd yn mynd rownd yn eich pen am oria.

   Mab a'i fam sy'n siarad yn y gan, ac yn ymbil ar eu duw: 'Dalia ni Allah, ma'r cwch ma mor frau, Dalia ni dalia ni'n dau.' Gwych.

Tudur Huws Jones
Yr Herald Cymraeg

Nearly two years after their notable debut EP, Dwyn y Dail, Patrobas have released an album that fully delivers on their early promise. Lle awn ni nesa'? is first-rate contemporary folk; a fusion of deep rooted musical heritage and understated rock, threaded through with a keen pop sensibility.

Since their first release the band, Wil Chidley, Iestyn Tyne and Carwyn Williams (on drums, but who also plays bass in Anglesey rock band Fleur de Lys), have been augmented by Gruffydd Davies. Gruffydd primarily contributes bass to these recordings, and has a background that takes in orchestral music and brass bands, which adds another dimension to Patrobas.

With the varied background and interest of each of the four members there is an awful lot of hinterland to be drawn on for their new songs. Most obviously in places you can hear the impression left by Wil's love of Mumford & Sons, elsewhere the closer to home influence of Cowbois Rhos Botwnnog is inescapable; but endless live performances have given the band the time to develop their own coherent sound. It's evident especially in the album's standout tracks: listen to Mi fydd hi'n fora (Morning Shall Come), Paid rhoi fyny (Don't give up) and the irresistible singalong Castell Aber - and all three offer distinctive and elating music.

There is no weak link in the band, it's the balance and deft interplay between each musician that is Patrobas' essential foundation - but in this collection of songs Iestyn Tyne's violin is especially notable in the way it breathes life and excites whenever it appears. The instrumentals he takes the lead on - Difyrrwch Sieff-Sieffre and Dormeo - are energised by his vivid playing, but elsewhere he has the same consistent impact.

The last song of the set, Dalianiala, has a gorgeous, plaintive guest vocal from Branwen Williams duetting with Wil, and an expressive cornet part, played by Gruffydd. The combination is heart melting - a shift in mood from the rest of the album, but a perfect close.

Even with the clear positive signals from their debut EP, Lle awn ni nesa'? is an unexpected box of delights from the Llŷn peninsula. Open hearted, uplifting and infectious music written under a big sky - undeniably magnificent.

EP - Dwyn y Dail - 2015

Dyma EP cyntaf y band gwerin Patrobas o Lŷn. Enw barddol un o feirdd Llŷn oedd Patrobas (Robert Gruffydd, 1832-63), un a drigai yn Nefyn, ac mae pump o ganeuon ar yr EP. Mae pedwar aelod yn y band, Wil Chidley (gitâr, llais, banjo a mandolin), Iestyn Tyne (ffidil, mandolin), Carwyn Williams (gitâr fâs) a Ronw Roberts (drymiau). Mae dylanwadau bandiau gwerin megis Calan, Cowbois Rhos Botwnnog, Ar Log a Gwerinos ar y traciau cyflymaf. Mae 'Mwncwns Abertawe' yn drac dawns cyflym a 'Deio i Dywyn' yn yr un ysbryd. Hoffaf y ffidil sydd i'w chlywed mewn dull cwestiwn ac ateb gyda'r llais yn y trac hwn gan adleisio'r traddodiad offerynnol ac mae'r adran ganol arafach yn ogleisiol ac yn fwy arbrofol. Mae dimensiwn arall, mwy personol o'r gerddoriaeth ar y traciau arafach. Dywed y band fod dylanwad Gai Toms arnynt ar y traciau hyn ond mi glywaf innau arddull rai fel Bob Delyn a Huw M ar brydiau ar draciau megis 'Lladron' a 'Lle Wyt Ti'. Gwn am rai o aelodau'r band fel unigolion talentog, cwbl ymroddedig i'r traddodiad gwerin, ond mae'r gymysgedd arbennig hon o gynhwysion yn creu sain unigryw a chyffrous iawn. Gobeithio y bydd y band yn datblygu eu harddull bersonol fwyfwy wrth aeddfedu yn y dyfodol.

Sioned Webb
Barn

Dyma EP cyntaf y pedwarawd gwerin o Lŷn, ac arni mae dwy alaw draddodiadol a thair can wreiddiol; 'Meddwl ar Goll', 'Lle Wyt ti' a 'Lladron'. 'Deio i Dywyn' yw un o'r alawon traddodiadol ac mae hi wedi'i gwneud droeon gan amryw o bobl. Does gan hon ddim byd newydd felly dyma drac gwanaf yr EP. Er hynny, mae hon a 'Mwncwns Abertawe' yn amlygu talent Iestyn Tyne ar y ffidil.
Mae adlais cryf o Gwibdaith Hen Fran yn 'Meddwl ar Goll', yn dwyn i gof eu can boblogaidd nhw 'Hogan Wirion' - wna i adael i chi benderfynu a yw hynny'n beth da neu ddrwg. 'Lle Wyt Ti' yw'r gyntaf i gydio'n iawn gan eu bod nhw'n canfod eu swn ei hunain fel band gwerin-roc modern. Heb os, hon yw'r gryfaf a'r mwyaf trawiadol ar yr EP.
Mae ol gigio helaeth yma (er mai prin yw'r troeon maen nhw wedi gadael Gwynedd!) a da o beth yw hynny - yn rhy aml o lawer mae bandiau yn mynd i stiwdio heb synnwyr o sut fand ydyn nhw. Mae Dwyn y Dail yn gasgliad amrywiol, graenus ac addawol; man cychwyn da.

Lois Gwenllian
Y Selar

​Dwyn y Dail yw casgliad gyntaf y grŵp ifanc o Ben Llŷn ac fel cyfanwaith cerddorol mae’n sicr yn werth gwrando arno. Heb os, canlyniad i gigio cyson Patrobas ar draws Gogledd- Orllewin y wlad yw’r EP o 5 cân.
‘Mwncws Abertawe’ yw’r trac agoriadol, clywir ddawn y Ffidlwyr, Iestyn Tyne, yn amlwg yn y darn hwn. O’r dechrau amlygir ddylanwad bro a thirlun y pedwar, sydd yn cyd-weddu’r gân yn arbennig. Cafodd yr ail drac ei rhyddhau yn gynharach eleni fel rhan o sengl, trac lle y clywir ddylanwadau’r band yn fwy amlwg. Ceir tebygrwydd rhwng ‘Meddwl ar goll’ i ganeuon cynnar Cowbois Rhos Botwnnog, megis y chwedlonol ‘Musus Glaw.’
Mae’r drydedd gân yn alaw draddodiadol. O bosib dyma’r gwanaf ar yr EP, gan nad yw petai’n plethu’n llawn gyda’r traciau eraill i greu cyfanwaith. Er hyn, dwi’n hoff iawn o’r modd y moderneiddiwyd yr alaw o’i chymharu â fersiwn yr athrylith,, Mered Evans, dangosa felly bod y band ifanc yn hyderus wrth ddelio gyda’r hen alawon. Y pedwerydd trac yw’r cryfaf, o bosib. Clywir mwy o fynd wrth iddynt blethu roc â gwerin. ‘Lladron’ yw’r olaf, a fy ffefryn i. Ceir defnydd da o’r gitâr acwstig a gan gyfleu naws hydrefol yr EP ac esbonio’r teitl, ‘Dwyn y Dail’.
Un peth sy’n sicr yw bod Wil, Iestyn, Carwyn a Ronw yn gwybod yn iawn pa fath o gerddoriaeth maent yn ei gyfansoddi. Hynod o braf hefyd yw medru adolygu gwaith a wthia ffiniau cerddoriaeth Gymraeg. Wrth i’w cerddoriaeth aeddfedu, edrychaf ymlaen at glywed mwy gan Patrobas ar lwyfan ac ar dâp.

Y Gigiadur

Un o’r pethau cyntaf sydd ei angen ar grŵp newydd ydi enw sy’n tynnu sylw neu’n codi chwilfrydedd.
Mae grŵp ifanc o ben Llŷn wedi ticio’r bocs hwnnw yn syth efo’r enw Patrobas.
Er gwybodaeth, enw barddol Robert Gruffydd (1832 – 1863), Pen-y-Maes, Nefyn oedd Patrobas, ond mae’n debyg mai enw Beiblaidd ydyw’n wreiddiol, sy’n cyfeirio at aelod o’r gymuned Gristnogol yn Rhufain. Ta waeth, grŵp gwerin-roc ifanc ac egniol ydi Patrobas rwan, ac maen nhw newydd ryddhau eu CD gyntaf.
Yr aelodau ydi Wil Chidley, gitâr a prif lais; Iestyn Tyne, ffidil; Carwyn Williams, gitar fâs, a Ronw Roberts, drymiau.
Methais ei perfformiadau yn yr Eisteddfod, ond gwelais y grŵp yn perfformio yng Ngŵyl Pendraw’r Byd, Aberdaron ym mis Medi, a’u mwynhau’n fawr.
Yn fyw, maen nhw’n chwarae cymysgedd o ganeuon gwreiddiol gan artistiaid eraill a gan aelodau’r band, ynghyd â chaneuon ac alawon traddodiadol. Maen nhw’n gartrefol iawn ar lwyfan, ac mae ‘arweinydd’ y band, Wil Chidley, yn deall i’r dim sut i gael y gynulleidfa ar eu traed.
O’r pum trac sydd ar eu CD gyntaf mae ‘na set o alawon traddodiadol, ac mae’r gân werin adnabyddus Deio i Dywyn. Caneuon gwreiddiol ydi’r tri trac arall.
Mae’r alawon yn wych, a Iestyn yn goblyn o ffidlwr, sydd ag arddull werinol gref.
Dwi’n hoff o’u trefniant o Deio i Dywyn hefyd.
Mae’r caneuon gwreiddiol yn fwy myfyriol efallai, ond eto, maen nhw’n dangos addewid bendant.
Mae ‘na ddyfodol disglair i Patrobas!

Tudur Huws Jones
Yr Herald Cymraeg